Thomas Pennant

Planhigion / Bywyd Gwyllt

images

Yn sylfaenol Bro Thomas Pennant yw’r fro yr ysgrifennodd amdani yn “The History of the Parishes of Whiteford and Holywell”.  O’r herwydd gellid dadlau y gallai cofnodi pob rhywogaeth o blanhigion ac anifeiliaid fod y n orchwyl mawr. Felly ar y wefan yma, yr hyn sy’n cael ei gynnwys ydyw rhestrau cyffredinol o natur wyllt y fro. Mae adran yn y llyfr dan sylw yn benodol drafod y planhigion a’r anifeiliaid sydd yn yr ardal.
Beth a geir yma ydyw ffrwyth cofnodi a sylwi er y 70au cynnar, yn enwedig mewn cyswllt ag adar y fro. Yn achos planhigion tu hwnt i’r  hyn a geir yn “The History of the Parishes of Whiteford and Holywell”, y llyfr cyfeiriol safonol ydyw “Flora of Flintshire”  gan Dr Goronwy Wynne (1993) Gwasg Gee, Dinbych
Botaneg - rhai o blanhigion y fro
Mae’r rhan fwyaf o Fro Thomas Pennant rhwng  cyfuchlin 500’ a’r arfordir, yn wynebu aber Afon Dyfrdwy. Mae’r creigiau islaw yn cynnwys Haenau Glo ar hyd y llain arfordirol gyda Grut Melinfaen fwy i mewn yn y tir gyda Chalchfaen Carbonifferaidd ar y tir uchel. Mae’r garreg galch yn brigo i’r  wyneb mewn nifer o fannau, ond mae’r rhan fwyaf o’r fro wedi ei gorchuddio gyda drifft. Mae hyn yn peri bod yma briddoedd brown gyda pheth pridd Stagnogli ar y llain arfordirol is. Yn y gorffennol bu cryn gloddio am lo a phlwm yn yr ardal. Rhoddwyd heibio’r cloddio ail hanner yr ugeinfed ganrif nes erbyn heddiw fod y rhan fwyaf o’r tir yn cael ei amaethu.
I’r botanegydd gallwn grybwyll hanner dwsin o fannau diddorol

1. Yr ardal o gwmpas Plas Downing, Chwitffordd.
Trist yw nodi fod cartref Thomas Pennant wedi ei chwalu ers tro, ond y mae rhai llwybrau cyhoeddus y gellir eu cerdded drwy’r coed. Mae’r coed eu hunain yn gymysgfa o rai brodorol a rhai estron wedi eu plannu, gan gynnwys nifer o goed Rhododendron.  Yn y gwanwyn mae nifer o blanhigion coedwig cyfarwydd yma fel Blodyn y Gwynt (Anemone nemorosa), Suran y Coed (Oxalis accetosella), Briallu (Primula vulgaris) a Fioled (Viola riviniana). Mae’r Clychlys Mawr (Campanula latifolia) yn ffynnu mewn ambell fan ac mae blodau'r Ffromlys melyn (Impatiens noli-tangere) i’w gweld fis Gorffennaf ac Awst.

2. Llain arfordirol Aber Dyfrdwy.
 Mae yma forfa heli helaeth yma, yn rhannol wedi magu drwy gynnydd Cordwellt (Spartina anglica) yn ystod yr ugeinfed ganrif.  Yn y rhannau mwdlyd ceir Llyrlys (Salicornia sp.) sy’n cael ei fwyta’n lleol dan yr enw ‘Sampkin’. Mae blodau Llysiau’r Llwg (Cochlearia anglica) i’w gweld yn dalpiau gwynion yma ac mae parthau o Aster y Morfa (Aster tripolium)  porffor yn ymddangos ymhlith Llygwyn y Môr (Atriplex portulacoides). Mae’r Pabi Corniog (Glaucium flavum)  I’w gael yn ardal Mostyn ond yn brin iawn.

3. Glaswelltir Calchog Mynydd Helygain a mannau o gwmpas Treffynnon a Threlogan.
Yma, ar y comin sy’n cael ei bori gan ddefaid mae planhigion sy’n hoff o galch - fel y Corrosyn (Helianthemum nummularium), Gwyddlwdwn (Poterium sanguisorba) a Theim Gwyllt (Thymus polytrichus) ac ar yr hen domenni wast, lle bu cloddio am blwm, gwelir helaethrwydd o flodau gwyn Tywodlys y Gwanwyn (Minuartia verna) -  un o’r ychydig blanhigion sy’n gallu goddef y pridd gwenwynig hwn. Pe baech yn ffodus efallai y gwelech yr ysbeidiol Ysgall Digoes (Cirsium acaule).

4. Chwareli calch wedi cau. .
Gall y mannau hyn fod yn llefydd chwilota da i fotanegwyr. Enghraifft dda yw Grange Quarry (neu White Quarry) ger Pantasaff.  Mae Drain Gwynion a Drain Duon wedi ymwthio i feddiannu rhai rhannau ond y mae rhai Coed Cerddinog (Sorbus spp) da yma hefyd.  Edrychwch hefyd am Degeirian y Gwenyn (Ophrys apifera)  sy’n ymddangos yn ysbeidiol a’r  Tegeirian Llyffant (Coeloglossum viride).

5. Llyn Helyg..
Roedd Thomas Pennant yn gynefin iawn gyda’r llyn gwneud hwn ar Stad Mostyn rhwng Lloc a  Threlawnyd.  (Gellir cael trwydded flynyddol gan swyddfa’r stad).  Mae’r goedwig o gwmpas y llyn yn amrywiol, gyda chyfuniad diddorol o goed brodorol a rhai dieithr, ac yn gyfoethog yn yr amrywiaeth o fwsogl a rhedyn.  Mae’r llyn ei hun yn gartref i gyfuniad helaeth o blanhigion yn cynnwys Hesg Bledrog (Carex vesicaria), Marchrawn y Dŵr (Equisetum fluviatile), Gwair Merllyn Bach (Isoetes echinospora), Gelaets (Iris pseudacorus), Ceiniog y Gors (Hydrocotyle vulgaris), Beistonnell (Littorella uniflora), Llysiau’r Sipsi (Lycopus europaeus), Mintys y Dŵr (Mentha aquatica), Llygad y ‘Sgwarnog (Comarum palustre) a sawl planhigyn arall.  Y planhigyn hynod iawn yma ydyw’r Pelenllys (Pilularia globulifera) -rhedynen mewn gwirionedd - ond yn edrych ddim byd tebyg i un!  Yn llawer mwy amlwg mae’r talpiau mawr o’r Lili Ddŵr Eddiog (Nymphoides peltata) gyda blodau melyn llai o dipyn na’r Lili Ddŵr Felen.

6. Cofiwch fod y lonydd o gwmpas  Chwitffordd, Carmel, Trelogan, Tremostyn a’r pentrefi cyfagos o hyd yn hyfryd yn y gwanwyn a’r haf. 
D.S. Mae Thomas Pennant ei hun yn cyfaddef nad oedd yn fotanegydd. Mae rhestr ‘rarer plants of our parish’ ar dudalen 152  The History of the parishes of Whiteford and Holywell.   Beth sydd yma yw copi ar am air o lythyr a gafodd gan gyfaill, y botanegydd enwog Hugh Davies person Abergwyngregyn ger Bangor, awdur Welsh Botanology.

 

Darparwyd gan Dr Goronwy Wynne 
Lluniau: Dr Goronwy Wynne 

Yn yr Adran hon:

» Thomas Pennant
» Bywgraffiad Thomas Pennant
» Teithiau cerdded
» Adborth
» Hanes
» Planhigion / Bywyd Gwyllt
» Adar
» Pysgod


Lleoliad a Cysylltiadau
Manylion Cyswllt

» Manylion Cyswllt
» Lleoliad / Cynllunydd Taith
» Ymholiad Ar-lein

Teithiau Cerdded
Sut i ddod o hyd i teithiau Pennant


I weld Teithiau cerdded Thomas Pennant
mewn map mwy