Thomas Pennant

Hanes

images

Cronoleg Digwyddiadau Cymdeithas Thomas Pennant

1989 - 1990

Sefydlu Grŵp Pennant, wedyn Cymdeithas Thomas Pennant

1990

Adfer bedd Moses Griffith (arlunydd Thomas Pennant )  yn wal ogleddol Eglwys Fair a Beuno Chwitffordd.

1990

Hydref 14: Cymanfa Ganu yn Eglwys Chwitffordd, yn rhan o’r ymdrech i godi arian i dalu am y prosiect uchod.
Anerchwyd yno gan y diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones (Athro Cymraeg Prifysgol Bangor).
Cyhoeddwyd yr anerchiad maes o law yn Y Faner ac Amserau Cymru.

1991

Chwefror 14: Noson Gymdeithasol a sgwrs gan Dr Goronwy Wynne “Thomas Pennant and Gilbert White”.

1996

Mehefin:  Cychwyn Teithiau Pennant i ddathlu daucanmlwyddiant cyhoeddi “The History of Whiteford and Holywell Parishes”. 
Gŵr gwadd: Meredith Edwards (Actor)

1997

Cystadleuaeth Logo Thomas Pennant / Teithiau Pennant.  Cynhaliwyd hyn ym mhob ysgol gynradd ym Mro Thomas Pennant.  Yr enillydd oedd Emma Parry, Ysgol Merllyn, Bagillt.
Gwnaed 200 cyfeirydd llwybr gyda’r logo arnynt a’u gosod ar lwybrau’r pump o deithiau cerdded.

1997

Mehefin: Darlith Flynyddol Thomas Pennant gyntaf gan Dr Paul Evans

1998

Arddangosfa yn Lluest Cloddfa Parys ym Mharc Treftadaeth Greenfield i goffau daucanmlwyddiant marwolaeth Thomas Pennant. 
Gŵr gwadd ar agoriad Ystafelloedd Pennant a’r Arddangosfa: Parch Phillip Pennant (yr olaf yn llinach y Pennantiaid).

Darlith: Donald Moore (cyn geidwad darluniau a mapiau  yn Y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth)

1998

Rhagfyr 16:  gwasanaeth coffa yn Eglwys Chwitffordd i ddathlu bywyd Thomas Pennant ar ddydd ei farwolaeth yn ôl yn 1798.
Anerchwyd gan Dr R Paul Evans.

1999 - 2003

Darlithoedd Blynyddol Thomas Pennant; gwaith hyrwyddo gan y Gymdeithas

2003

Mehefin 28:  Prosiect ar y cyd gyda Chyfeillion Llŷn yn dadorchuddio plac i goffau Moses Griffith ar wal Trygarn, Sarn Mellteyrn,  lle ganed ef (gyda Robyn Lewis, Archdderwydd Cymru ar y pryd yn bresennol).

2004

Mai 4:  Dadorchuddio Carreg Goffa Thomas Pennant gyferbyn  a Phorth dwyreiniol Eglwys Chwitffordd, gan y diweddar David Schwarz (Is-lywydd y Gymdeithas).

2004 - 2008

Siwrneiau a Theithiau Thomas Pennant  –

  • Taith drwy Eryri

  • Taith drwy’r Gororau

  • Sycharth 2006

  • Maelor 2007

  • Selborne Gilbert White

  • Amgueddfa Werin Cymru

Ardal y Llynnoedd a Gororau Lloegr a’r Alban

2009

Cydymdrech gyda Chyngor Plwyfol Eglwys Chwitffordd - “Gŵyl Thomas Pennant” a oedd yn cynnwys

  • Troeon a sgyrsiau yn yr ysgolion lleol

  • Cyngerdd

  • Sgwrs sleidiau gyda’r nos

  • Cymanfa

Cafwyd cymorth grant gan Cadwyn Clwyd

Dangoswyd hyn ar raglen Wedi 7 ar S4C. 

2010

Grant gan Cadwyn Clwyd: 
Cychwyn wefan Cymdeithas Thomas Pennant
Ailwampio a diweddaru Teithiau Thomas Pennant

 

Cliciwch yma i weld Cofnod o Ddarlithoedd Thomas Pennant  

Darparwyd gan Norman Closs-Parry 
Lluniau: Norman Closs-Parry

 

Yn yr Adran hon:

» Thomas Pennant
» Bywgraffiad Thomas Pennant
» Teithiau cerdded
» Adborth
» Hanes
» Planhigion / Bywyd Gwyllt
» Adar
» Pysgod


Lleoliad a Cysylltiadau
Manylion Cyswllt

» Manylion Cyswllt
» Lleoliad / Cynllunydd Taith
» Ymholiad Ar-lein

Teithiau Cerdded
Sut i ddod o hyd i teithiau Pennant


I weld Teithiau cerdded Thomas Pennant
mewn map mwy