Nodau Tudalen:
Cliciwch yma am fanylion cyswllt
Bywgraffiad
Naturiaethwr - Hynafiaethydd – Teithiwr
![]() |
Ganwyd Thomas Pennant ar Fehefin 14, 1726. Yr oedd yn fab i David ac Arabella Pennant. Ei gartref oedd Plas Downing, Chwitffordd. Gwaetha’r modd aeth y tŷ ar dan yn 1922 a’i adael yn adfail. Dymchwelwyd hwnnw wedyn rai blynyddoedd yn ôl. Ynghynt bu i’w deulu fyw ym Mychton, Chwitffordd. |
Arfbais Teulu Pennant |
|
Daw’r rhan helaeth o’r wybodaeth sydd ar gael am Thomas Pennant o’i waith llenyddol a gyhoeddwyd ym 1793. Dywed sut y bu iddo gael diddordeb am y tro cyntaf mewn adaryddiaeth a natur yn 12 oed, ar ôl iddo gael llyfr am adar gan ei berthynas John Salusbury Bachygraig, Tremeirchion.
Yn ôl pob tebyg cafodd addysg gynnar mewn ysgol yn Wrecsam a hyfforddiant pellach yn Llundain, cyn mynd i Goleg y Frenhines, Rhydychen, yn 18 oed. Er iddo dreulio rhai blynyddoedd yn Rhydychen, gadawodd heb radd. Ond yn ystod y cyfnod hwn dechreuodd ymddiddori mewn Achyddiaeth. Yn ystod y blynyddoedd olynol bu’n teithio. Aeth i Iwerddon, Ynys Manaw, Yr Alban gan gynnwys Ynysoedd Heledd i dir mawr Cyfandir Ewrop a sawl rhan o Gymru a Lloegr.
|
|
Yn ystod ei fywyd derbyniodd Thomas Pennant sawl anrhydedd a chydnabyddiaeth o Brydain a thu hwnt. Ym 1754 etholwyd ef yn Gymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethau. - Cafodd anrhydeddau o Norwy, Sweden ac America. Ym 1771 cafodd radd fygedol Ll.D. gan Brifysgol Rhydychen. Cafodd nifer o anrhydeddau o’r Alban, gan gynnwys rhyddfraint dinas Caeredin. |
|
![]() |
Ni fu Thomas Pennant erioed heb gydnabod ei ddyled i ddau gyfaill mawr - John Lloyd (1733 - 93) Rheithor Caerwys, a ddeuai gydag ef ar bob un o’i deithiau drwy Gymru. (”To his great skill in the language and antiquities of our country I am myself much indebted”); a |
Moses Griffith |
Torrodd iechyd Thomas Pennant ym 1793. Bu farw ym mis Rhagfyr 1798 yn 72 oed. Fe’I claddwyd ger yr allor yn Eglwys Chwitffordd. |
![]() |
|
Cofeb i Thomas Pennant yn Eglwys Fair a Beuno, Chwitffordd |
Prif Weithiau Thomas Pennant
1766 |
British Zoology |
|
1769 |
Indian Zoology |
|
1771 |
Synopsis of the Quadrupeds |
|
1771 |
A Tour in Scotland (1769) |
|
1773 |
Genera of Birds |
|
1774 |
A Tour in Scotland and Voyage to the Hebrides (1772) |
|
1778 |
A Tour in Wales |
|
1781 |
History of the Quadrupeds (Revised ed. of ‘Synopsis’) |
|
1782 |
The Journey from Chester to London |
|
1784 |
Arctic Zoology |
|
1790 |
Of London |
|
1793 |
The Literary Life of the late Thos. Pennant, by Himself |
|
1796 |
The History of the Parishes of Whiteford and Holywell |
|
1798 - 1800 |
Outlines of the Globe (4 vols.) |
|
1801 |
A Tour from Downing to Alston Moor |
|
1802 |
A Journey from London to the Isle of Wight |
|
1804 |
A tour from Alston Moor to Harrowgate and Brimham Crags |
|
1885 |
Teithiau yng Nghymru (ed. John Rhys) |
|
1948 |
A Tour on the Continent (1765) |
Wedi ei ddarparu gan Norman Closs-Parry
Lluniau: Norman Closs-Parry or from '1800 Woodcuts by Thomas Bewick and his School'
Yn yr Adran hon:
» Thomas Pennant
» Bywgraffiad Thomas Pennant
» Teithiau cerdded
» Adborth
» Hanes
» Planhigion / Bywyd Gwyllt
» Adar
» Pysgod
Lleoliad a Cysylltiadau
Manylion Cyswllt
» Manylion Cyswllt
» Lleoliad / Cynllunydd Taith
» Ymholiad Ar-lein
Teithiau Cerdded
Sut i ddod o hyd i teithiau Pennant
I weld Teithiau cerdded Thomas Pennant
mewn map mwy
Thomas Pennant
» Cyflwyniad
» Thomas Pennant
» Teithiau Cerdded
» Adborth
» Hanes
» Planhigion / Bywyd Gwyllt
EIN CYMDEITHAS
» Cyflwyniad
» Pwy ydym ni
» Ein Noddwyr
» Aelodau
» Newyddion
» Dyddiadur / Calendr Digwyddiadau
GWYBODAETH
» Cyflwyniad
» Albwm Lluniau Ar-lein
» Wal Fideo Ar-lein
» Llawrlwythiadau
» Cwestiynau Cyffredin
» Dolenni Defnyddiol
CYSYLLTIADAU
» Cysylltiadau
» Manylion Cyswllt
» Lleoliad / Cynllunydd Taith
» Ymholiad Ar-lein


















