
Nodau Tudalen:
Cliciwch yma am fanylion cyswllt
Teithiau Cerdded
I weld teithiau cerddad Thomas Pennant mewn map mwy
Taith1 - Pellter 4m, cymer tua 2 -2.5 awr
Dyffryn Maes Glas - Bryn Celyn - Stockyn Doc Maes Glas - Abaty Dinas Basing
Yn cychwyn yng Nghanolfan Ymwelwyr Dyffryn Maes Glas, mae’r daith hon yn dangos digonedd o enghreifftiau o’r gorffennol diwydiannol o’r nifer o felinau a chronfeydd yn Nyffryn Mae Glas hyd at yr hen harbwr ar yr afon Dyfrdwy. Mae nifer o wasanaethau bws ar y A548, ond gwyliwch rhag y traffig (a’r trenau wrth groesi'r rheilffordd).
Am fanylion llawn cliciwch yma.
Taith 2 - Pellter 5.5 m, cymer tua hanner diwrnod
Treffynnon - Gowdal - Lôn Mertyn - Carmel Pantasaff - Pen-y-bâl - Treffynnon
Man cychwyn a man parcio gyferbyn ond ychydig i lawr o Ffynnon Gwenffrewi. Dyma un o’r teithiau mwyaf amrywiol (ac o bosib’ y mwyaf egnïol). Mae’n mynd heibio mwyngloddfeydd, chwareli, a byd natur. Mae’r daith yma’n un agored iawn ac nid oes gwasanaeth bws gwerllaw, felly cofiwch fynd â dillad addas gyda chi.
Am fanylion llawn cliciwch yma.
Taith 3 - Pellter 6m (ar y mwyaf), cymer tua hanner diwrnod
Chwitffordd - Downing - Kinsale - Mostyn - Chwitffordd
Cychwyn ger Eglwys Chwitffordd gan barcio ar ochr y ffordd yno. Mae’r daith braf yma’n mynd i galon Bro Thomas Pennant, gan fynd at Blas Downing a’r dyffrynnoedd coediog a’r caeau tonnog i lawr at yr afon. Gellir cael lluniaeth mewn nifer o fannau ar y daith ac mae sawl llwybr y gellid ei gymryd i fyrhau’r daith. Gwasanaethau bws cyfyngedig.
Am fanylion llawn cliciwch yma.
Taith haws i deuluoedd - cliciwch yma
Taith 4 - Pellter tua 4m, cymer tua 2 awr
Treffynnon - Nant - Gadlys - Plas Bagillt
Cychwyn o Orsaf Fysiau Treffynnon ac mae digon o lefydd parcio yn ymyl. Mae hon yn daith ddiddorol ar hyd yr hen ffordd i Fagillt ar y gefnen isel yng Nghefn wrth ben Nant y Fflint. Wedyn ar draws y caeau i’r Gadlys, lle bu unwaith gwaith toddi The Quaker Company. Mae’r daith yn ôl ar hen ffordd Bagillt heibio Plas Bagillt.
Am fanylion llawn cliciwch yma.
Taith 5 - Pellter 5 m, cymer tua 3 awr
Chwitffordd - Y Goleudy Rhufeinig (Pharos) - Maen Achwyfaen Chwitffordd
Eglwys Chwitffordd yw’r man cychwyn gan barcio ar ochr y ffordd gerllaw. Mae’r daith gylchol hon yn mynd at ddwy heneb o bwys: (1) y Goleudy ar Garreg, dyma’r llecyn uchaf yn y plwyf lle ceir golygfeydd gwych i bob cyfeiriad, a (2) Croes Garreg Galar - ‘Maen Achwyfaen’, gan ddychwelyd heibio’r gastanwydden anferth a Phlas Ucha.
Am fanylion llawn cliciwch yma.
Nid yw’r teithiau yn rhai anodd iawn ond gall rhai o’r llwybrau fod yn fwdlyd yn enwedig yn y gaeaf. Byddai’n ddoeth rhoi esgidiau cryfion i gerdded a gwisgo dillad cynnes a all eich cadw’n ddiddos ar dywydd garw.
Mae’r teithiau’n mynd ar hyd mannau lle mae hawl tramwy cyhoeddus, er hynny cofiwch y byddwch yn mynd ar hy dir preifat. Cadwch at y Cod Cefn Gwlad gan barchu bywyd a gwaith yng nghefn gwlad. Cymerwch ofal rhag peri difrod i gnydau. Dylech gadw unrhyw gi sydd gyda chi dan reolaeth bob amser. Wrth barcio cofiwch ystyried preswylwyr lleol.
Pe baech yn cael unrhyw anhawster cwblhau unrhyw un o’r teithiau am fod camfeydd wedi torri, yr arwyddion cyfeirio’n aneglur neu wedi diflannu, byddwch cystal â chysylltu â’r canlynol:-
Teithiau 1 - 4:
Arolygydd Hawliau Tramwy'r Adran Briffyrdd, Cyngor Sir y Fflint, Depo Helygain Adeiladau Fulbrook, Helygain, Treffynnon Sir y Fflint CH8 8BY.
Ffôn: 01352 780812
Taith 5:
Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint, Canolfan Ymwelwyr Parc Wepre, Wepre Drive, Cei Connah, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, CH5 4HL
Ffôn: 01244 814931
Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01352 714172.
Yn yr Adran hon:
» Teithiau Cerdded
» Taith 1 Pennant
» Taith 2 Pennant
» Taith 3 Pennant
» Taith 4 Pennant
» Taith 5 Pennant
Lleoliad a Cysylltiadau
Manylion Cyswllt
» Manylion Cyswllt
» Lleoliad / Cynllunydd Taith
» Ymholiad Ar-lein
I weld Teithiau cerdded Thomas Pennant
mewn map mwy
Thomas Pennant
» Cyflwyniad
» Thomas Pennant
» Teithiau Cerdded
» Adborth
» Hanes
» Planhigion / Bywyd Gwyllt
EIN CYMDEITHAS
» Cyflwyniad
» Pwy ydym ni
» Ein Noddwyr
» Aelodau
» Newyddion
» Dyddiadur / Calendr Digwyddiadau
GWYBODAETH
» Cyflwyniad
» Albwm Lluniau Ar-lein
» Wal Fideo Ar-lein
» Llawrlwythiadau
» Cwestiynau Cyffredin
» Dolenni Defnyddiol
CYSYLLTIADAU
» Cysylltiadau
» Manylion Cyswllt
» Lleoliad / Cynllunydd Taith
» Ymholiad Ar-lein