Teithiau Cerdded

Pennant Taith 2 - Pellter 5.5 m, cymer tua hanner diwrnod

Click here to enlarge

Pantasaff a Phen-y-bâl
[Man cychwyn Cyf AO: 185760]

Mae’r daith hon yn cychwyn yn y Maes Parcio ar ben Well Hill.  Mae yna arosfan bws yn yr archfarchnad gerllaw.

Gan adael y maes parcio rhaid troi i’r  chwith i fynd i lawr yr allt heibio’r eglwys Babyddol.  Wedyn mynd drwy’r giât at eglwys y plwyf.  Yna cerdded allan o’r fynwent heibio’r giât yn pasio Capel Gwenffrewi ar y dde gan gerdded i lawr yr allt. Rydych yn awr yn Ffynnon Gwenffrewi.

Croeswch y ffordd i fynd heibio maes parcio bach i fyny’r lôn.  Pan fo’r lôn yn cyrraedd hen gloddfa mwynau ewch yn syth ymlaen gan ddilyn trac fferm at y giât. O’r fan yma ewch ymlaen i fynd ar hyd llwybr  sydd fwy na heb ar ochr chwith giât y fferm. Ewch ymlaen wedyn gan fynd ar ochr chwith pwll bychan.  Ewch drwy ddwy giât mochyn i fynd tu ôl i’r  cae chwarae ac i’r dde o’r adeilad i’r  ffordd. Croeswch i Nant Eos.

Mae’r ffordd hon yn arwain at lwybr sy’n mynd dros gamfa i gae. Ewch dros y gamfa a throwch i’r  chwith. Peidiwch â dilyn y trac ond cerddwch i fyny allt serth i’r  dde o’r gwrych.  Dilynwch y llwybr gyda’r gwrych ar y chwith i chi i fynd dros gamfa.


Towards Carmel
Croeswch ac ewch am y chwith i’r  coed. Cariwch ymlaen ar eich union dros y weirglodd i fynd dros gamfa ger giât i’r  ffordd ger y tai. Trowch i’r  chwith a dilynwch ymlaen i’r  briffordd.

Trowch i’r  dde a chroesi dros y ffordd i fynd i fyny’r ffordd cyn Halfway House i gyfeiriad Carmel. Yn syth ar ôl pasio Ffordd Ffynnon cymerwch y llwybr hefyd ar y chwith i’r  caeau chwarae. Dilynwch y llwybr yng nghefn y tai ac ar gyrion y cae chwarae i fynd rhwng y tai a phentref Carmel.

Croeswch dros y ffordd i fynd ar y llwybr i’r dde i Goed Carmel. Ewch ar y fforch i’r chwith i fyny’r allt ac i’r chwith o’r giat sydd wedi ei chloi, ac o amgylch y tir i drac sy’n dod a chi i fryn Carmel. Mae yna giat arall gyda Private arni sydd ddim gyda hawl tramwy.


Trowch i’r  dde ar y diwedd a throi i’r  chwith i fyny’r allt. Lle mae’r lôn yn gwyro i’r  dde ewch yn syth ymlaen ger y bwthyn gwyn, a thros y gamfa i’r  cae.  Ewch i’r  coed.  Ar ôl cyrraedd y coed trowch i’r  dde dros gamfa gan gerdded gyda’r coed ar y chwith dros gamfa arall.  Ewch ymlaen tan i chi gyrraedd y lôn.  Trowch i’r  chwith a mynd i lawr yr allt tuag at Bantasaff.  Pan mae’r lôn yn gwastatau trowch i’r  chwith drwy’r drydedd giât i gerdded i’r  Fynachlog a’r Eglwys.

White Quarry plants
Cerddwch heibio tu blaen yr Eglwys i fynd dros gamfa i lôn. Cerddwch i fyny’r allt a mynd drwy giât mochyn. Cerddwch i fyny’r allt gyda’r  wal ar y chwith a throi i’r  dde cyn cyrraedd y gamfa.  Cerddwch ymlaen gyda’r  ffens ar y  chwith i fynd dros gamfa yn y ffens. Trowch i’r  dde o gwmpas y llwyni i fynd drwy’r giât.


Ar ôl y giât ewch fymryn i’r  dde  i’r  ffens uwchben y chwarel. Dilynwch ymlaen drwy’r eithin a throwch i’r  dde i fynd heibio’r tŷ.

Ewch dros y gamfa ar y chwith a cherdded yn syth ymlaen ac wedyn i’r  chwith i fyny’r allt ar hyd hen dramffordd i fynd dros gamfa ger giât. Dilynwch y llwybr ar ben y llethr lle cewch olygfeydd eang i bob cyfeiriad. Ewch dros ddwy gamfa arall. Mae yna Bwynt ‘Trig’ yn y cae hwn, yno ceir golygfeydd godidog. Ewch yn ôl i’r  llwybr i fynd dros y gamfa (i’r dde) a cherdded i lawr ar draws y cae a mynd dros gamfa arall i’r  Comin. Trowch i’r  chwith gan uno a thrac i fyny allt. Pan gyrhaeddwch ben y bryn cewch weld y gofeb yn coffau priodas y brenin George V (1865 – 1936) gyda'r frenhines Mari o Tech.

Ar  ôl ymweld â’r gofeb ewch i lawr y stepiau gan fynd ar y llwybr yn fforchio  i’r  dde at arwydd llwybr. Ewch ar y llwybr hwn sy’n mynd i grib y llethr. Ewch dros ddwy gamfa at fainc. Oddi yma daliwch i’r  dde o’r llwyni a throsglwyddydd bychan. Yna ewch fymryn i’r  chwith at gamfa a giât.  Ewch dros y gamfa hon a’r nesaf a throi i’r  dde gerfydd y ffens at gamfa arall. Yna trowch i’r  chwith a cherdded gyda’r ffens i’r  giât, ewch drwyddi ac yn syth ymlaen i fynd dros gamfa i’r Fynwent Anifeiliaid Anwes.  Dilynwch y llwybr drwy’r fynwent heibio’r ffynnon fwrw dymuniadau at y  giât.  Yn syth wedyn trowch i’r  chwith i fynd drwy giât arall. Dilynwch y trac gan ei adael lle mae’n mynd i’r  giât fferm i ddal i fynd ymlaen yn syth i fynd dros gamfa wrth ochr y giât.  Mae yma eto olygfa wych dros Dreffynnon a thu hwnt.

Daliwch i fynd i lawr yr allt i fynd dros gamfa yn y gornel.  Wedi croesi’r gamfa ewch ar y llwybr o’ch blaen sy’n gwyro i’r  chwith wedyn i’r  dde i fynd i’r  fynedfa am y bwthyn. Trowch i’r  dde ac wedyn bron yn syth i’r  chwith i gerdded gyda’r gwrych ar y dde. Ewch dros y gamfa (o flaen y bwthyn) gan ddilyn y llwybr cul i’r  giât mochyn ac allan i’r  ffordd. Croeswch dros y ffordd a throwch i’r  chwith.  Ar ben Park Lane ewch drwy’r giât i’r  parc a dilynwch y llwybr o gwmpas y Ganolfan Hamdden. Cerddwch drwy’r  giatiau coffa i’r  Stryd Fawr a throwch i’r  chwith.
Wrth Fanc HSBC trowch i’r  dde i fynd i’r  ffordd osgoi fewnol a chroesi yn yr Archfarchnad. Trowch i’r  chwith i gyrraedd yn ôl i’r  man cychwyn.

Cliciwch yma i lawrlwytho copi o’r daith hon

Cydnabyddir:-
- Y Daith Wreiddiol gan Norman Closs-Parry
- Lluniau: Norman Closs-Parry

Pantasaff a Phen-y-bâl
Gan adael y mae parcio rhaid troi i’r  chwith i fynd i lawr yr allt heibio’r eglwys Babyddol.  Wedyn mynd drwy’r giât at eglwys y plwyf.  Yna cerdded allan o’r fynwent heibio’r giât yn pasio Capel Gwenffrewi ar y dde gan gerdded i lawr yr allt. Rydych yn awr yn Ffynnon Gwenffrewi.

Croeswch y ffordd i fynd heibio maes parcio bach ac i fyny’r lôn.  Pan fo’r lôn yn cyrraedd hen gloddfa mwynau ewch yn syth ymlaen gan ddilyn trac fferm at y giât.   Yna ewch ymlaen ar hyd llwybr ar ochr chwith i giât y fferm. Ymlaen wedyn gan fynd ar ochr chwith pwll bychan, y tu ôl i’r  cae chwarae gan ddod allan i ffordd. Trowch i’r  dde wedyn yn syth i’r  chwith i Nant Eos.

Mae’r ffordd hon yn arwain at lwybr. Dilynwch hwn dros gamfa a throwch i’r  chwith.  Gadewch y trac a cherddwch i fyny gallt serth i’r  dde o’r gwrych. Dilynwch y llwybr  gyda’r gwrych ar y chwith a mynd dros gamfa.  Wedyn ewch am y chwith i’r  coed. Ewch ymlaen ar eich union dros y weirglodd a thros gamfa sy’n ymyl giât i’r  ffordd lle mae’r tai. Trowch i’r  chwith a dilynwch hyn i’r  briffordd.

Trowch i’r  dde a chroesi’r ffordd cyn Tafarn Halfway House. Peidiwch â chymryd sylw o’r ffordd sy’n mynd i’r  stad ar y chwith a chymerwch y llwybr hefyd ar y chwith i’r  caeau chwarae. Dilynwch y llwybr yng nghefn y tai ac o gwmpas cyrion y cae chwarae i fynd rhwng y tai a phentref Carmel. Trowch i’r  dde tuag at yr ysgol.

Croeswch dros y ffordd  i fynd ar y llwybr  i’r  dde i Goed Carmel.  Ewch ar y fforch i’r  chwith i fyny’r allt a thrwy’r  coed ac wedyn y giât i’r  lôn a throwch i’r  dde.  Yn y ffordd  trowch i’r  chwith i fyny’r allt. Lle mae’r  ffordd yn gwyro i’r  dde ewch yn syth ymlaen dros gamfa i’r  cae. Ewch am ochr chwith y goedlan.  Pan gyrhaeddwch y coed trowch i’r  dde a cherddwch gyda’r coed ar y chwith tan y dewch at y ffordd. Trowch i’r  chwith ac ewch i lawr yr allt tuag at Bantasaff. Pan mae’r lôn yn gwastatau trowch i’r  chwith drwy’r drydedd giât i gerdded i’r  Fynachlog a’r Eglwys.
Cerddwch heibio tu blaen yr Eglwys i fynd dros gamfa i lôn. Cerddwch i fyny’r allt a mynd drwy giât mochyn. Cerddwch i fyny’r allt gyda’r  wal ar y chwith a throwch i’r  dde cyn cyrraedd y gamfa.  Cerddwch ymlaen gyda’r  ffens ar y  chwith i fynd dros gamfa yn y ffens. Trowch i’r  dde o gwmpas y llwyni i fynd drwy’r giât.

Ewch fymryn i’r  dde o’r ffens uwchben y chwarel. Dilynwch ymlaen drwy’r llwyni eithin a throwch i’r  dde heibio’r tŷ.

Ewch dros y gamfa ar y chwith a cherdded yn syth ymlaen ac wedyn i’r  chwith i fyny’r allt ar hyd hen dramffordd i fynd dros gamfa ger giât. Dilynwch y llwybr ar ben y llethr lle cewch olygfeydd eang i bob cyfeiriad. Ewch dros ddwy gamfa arall. Mae yna bwynt ‘trig’ yn y cae hwn lle ceir golygfeydd godidog. Ewch yn ôl i’r  llwybr i fynd dros y gamfa a cherdded i lawr ar draws y cae a mynd dros gamfa arall i’r  Comin. Trowch i’r  chwith gan uno a thrac i fyny allt. Pan gyrhaeddwch ben y bryn cewch weld y gofeb yn coffau priodas y brenin Edward V gyda Mari o Tech.
Ar ôl gweld y gofeb ewch ymlaen fel petaech yn mynd dros y bryn am Dreffynnon. Cyn cychwyn i lawr cymerwch y llwybr ar y dde sy’n mynd yn ôl i grib y llethr.  Croeswch dros ddwy gamfa at fainc. Ewch i gyfeiriad y polyn telegraff ac wedyn i gamfa ar y chwith i’r  ffens.  Cerddwch ar hyn y llwybr  hwn, dros gamfa arall ar y dde sy’n arwain at gamfa arall eto. Trowch i’r  chwith a cherddwch gyda’r ffens i’r  giât.  Ewch drwyddi a syth ymlaen dros gamfa i Fynwent Anifeiliaid Anwes. Dilynwch y llwybr drwy’r fynwent heibio’r ffynnon fwrw dymuniad at y giât.  Yn syth wedyn trowch i’r  chwith i fynd drwy giât arall. Dilynwch y trac  a phan mae’n fforchio ewch yn syth ymlaen (chwith) i fynd dros gamfa. Eto mae yma olygfeydd godidog dros Dreffynnon a thu hwnt.
Daliwch i fynd i lawr yr allt i fynd dros gamfa yn y gornel.  Wedi croesi’r gamfa ewch ar y llwybr sy’n igam ogam cyn cyrraedd ffordd fynediad am y bwthyn. Trowch i’r  dde ac i’r  chwith i gerdded gyda’r gwrych ar y dde. Ewch dros y gamfa (o flaen y bwthyn) gan ddilyn y llwybr cul i’r  giât mochyn ac allan i’r  ffordd. Croeswch dros y ffordd a throwch i’r  chwith.  Ar ben y ffordd nesaf ewch drwy’r giât i’r  parc  a dilynwch y llwybr o gwmpas y Ganolfan Hamdden. Cerddwch drwy’r  giatiau coffa i’r  Stryd Fawr a throwch i’r  chwith.
Wrth Fanc HSBC trowch i’r  dde i fynd i’r  ffordd osgoi fewnol a chroesi yn yr Archfarchnad. Trowch i’r  chwith i gyrraedd yn ôl i’r  man cychwyn.

Cydnabyddiaeth:-
- Darparwyd gan: Ryan Jenner 16/09/2010

  • St Davids Church, Pantasaph
  • Pen-y-Ball
 

Map


I weld Taith 2 mewn map mwy

Byddem yn ddiolchgar pe baech yn cysylltu â ni pe bai gennych unrhyw luniau y gallem eu hychwanegu yma.

 

Diolch yn fawr iawn i bob un o'n Noddwyr

Cysylltwch â ni er mwyn dod yn Noddwr Cymdeithas Thomas Pennant .........

 

 

Yn yr Adran hon:

» Teithiau Cerdded
» Taith 1 Pennant
» Taith 2 Pennant
» Taith 3 Pennant
» Taith 4 Pennant
» Taith 5 Pennant


I weld Teithiau cerdded Thomas Pennant
mewn map mwy

Lleoliad a Cysylltiadau
Manylion Cyswllt

» Manylion Cyswllt
» Lleoliad / Cynllunydd Taith
» Ymholiad Ar-lein