Teithiau Cerdded

Pennant Taith 4 - Pellter tua 4m, cymer tua 2 awr

Click here to enlarge

Boot End - Garreg Lydan Hen Ffordd Bagillt - Gadlys Bagillt
[Man cychwyn Cyf AO: 188758]


Disgrifir y llwybr yma fel un nad yw’n yn dod yn ôl i’r man cychwyn. Mae hynny’n rhoi’r dewis i gerddwr ddal bws o un pen i’r pentref i’r  pen arall neu i gerdded yn ôl.

Mae’r daith yn cychwyn yn Boot End (1), gyferbyn a Gwesty’r Boot and Ship.  Trowch i fyny Ffordd New Brighton  a bron yn syth trowch i’r  dde i fyny Glan yr Afon i’r  fynwent (2), lle gellir parcio.

Ewch drwy’r giât mochyn ar y dde tua’r lle chwarae plant. Cerddwch drwy’r lle chwarae, gan fynd drwy’r giât fetel i’r  ffordd. Trowch i’r  chwith. Cerddwch yn ei blaen i fyny’r lôn.
Pan gyrhaeddwch y top(3), mae’n werth aros i edrych o gwmpas. Tu ôl i chi mae Aber Afon Dyfrdwy gyda golygfeydd at benrhyn Cilgwri a thu hwnt;  ar y chwith Afon Dyfrdwy a Swydd Gaer;  ar y dde Treffynnon.  Y tŷ mawr gyda llawer o adeiladau fferm o’i gwmpas ar y dde ar draws y dyffryn yw Plas Bagillt.
Gadlys
Mae Thomas Pennant, yn ‘The History of the Parishes of Whiteford and Holywell,’ tudalen 268, yn disgrifio Plas Bagillt a’i safle rhyfedd fel a ganlyn:
’... the house of Bagillt Hall is erroneously so named, it not being possessed of any manerial rights, nor does it stand even in the township of Bagillt; the whole road from the town of Treffynnon being in the township of that name, divided from the former by the bottom of the dingle...’

Ymlaen ar hyd y trac tuag at Fferm y Garreg Lydan (4). Pan oedd hon yn brif ffordd o Dreffynnon i Fagillt, yr oedd y Garreg Lydan yn dafarn yn ogystal â bod yn fferm.  Tŷ preifat ydyw bellach. Pan gyrhaeddwch y tŷ mawr gyda’r giatiau haearn (Garreg Lydan), edrychwch am lwybr main ar y chwith drwy’r coed. Dilynwch hwn at gamfa yn mynd i gae. Dilynwch y gwrych ar y dde, wedyn croeswch gamfa a chadwch i’r  chwith. Mae’r llwybr yn troi’n drac gan basio sied ffarm ar y dde a honeysuckle on the hedgerowschyrraedd yn fuan iawn at Hen Ffordd Bagillt.

Yn y cae agosaf arferai fod Maen Hir enwog (5). Dyna a roddodd enw i’r  fferm.  Tua 40 mlynedd yn ôl tynnwyd hi oddi yno, a does neb ar hyn o bryd yn gwybod i le mae hi wedi mynd. Dilynwch lwybr gerfydd y gwrych at y sgubor yn y pellter.  Mae’r llwybr erbyn hyn wedi troi’n drac sy’n eich arwain at Hen Ffordd Bagillt (6).
Trowch i’r  chwith heibio Plas Panton a Ffordd-y-dre.  Hen ffordd hynafol yw hon hefyd. Cyn dyfodiad y tollbyrth a gwneud y ffordd gerfydd yr afon, dyma oedd y brif ffordd o Dreffynnon i’r Fflint a thu hwnt.

Trowch i’r  dde yn y gyffordd T (7) a heibio Fferm Tyn-y-Pistyll, gan droi i’r  dde yn y gyffordd T nesaf (8). Ar ôl tua 100 medr, trowch i’r  chwith ar hyd lôn yn mynd at Gadlys (9), safle hen farics y fyddin.  Rhwng 1700 a 1786 smeltiwyd plwm yma, cyn ei gludo gyda llongau o’r cei ym Magillt.

Disgrifir yr amgylchiadau yma gan Thomas Pennant am y telerau ar gyfer smeltio plwm (tudalen 260): ”The ancient smelting-house of Gadlys stood... about a mile distant from the shore, and on the land of Robert Hughes, esquire, of Halkyn. The lease expired in 1786, and the whole works were entirely pulled down, after standing the term of the agreement, which was forty-four years.” Mae yna gasgliad o adeiladu diddorol yn yr ardal; nifer ohonynt yn dal gyda’u toiledau y tu allan. Gefail oedd y bwthyn ar y dde.

Ewch ymlaen ar  hyd y trac, gan gadw i’r  chwith drwy’r giât. Hen dafarn y goets fawr oedd yr adeilad brics coch ar y dde. Y mae’n dangos yn glir iawn o leiaf dri chyfnod adeiladu: roedd yr hen ran wedi ei chodi gyda cherrig, rhan wedyn gyda hen frics a’r rhan ddiwethaf gyda brics newydd.

Daliwch ymlaen ar hyd y lôn ac yn syth ar ôl y coed ewch ar y llwybr ar y chwith (10). Cyn mynd ar y llwybr, myfyriwch am ennyd... Efallai mai yma oedd maes brwydr  ym 1157, pryd y bu raid i Harri II gilio ar ôl ei drechu gan y fyddin Gymreig. Dilynwch y llwybr ar draws y cae a thros y gamfa. Gan ddal i gadw'r goedlan ar y chwith, cerddwch ymlaen i gornel y cae a thros y gamfa, gerllaw’r modurdai.

Trowch i’r dde i stad o dai. Cerddwch ar hyd lôn y stad tuag at y man agored. Trowch i’r dde (11) a phasio o flaen Wern Stores. Anwybyddwch y lôn ar y dde a dilynwch y lôn yn ôl i ganol y pentref.

Ron Williams
Cliciwch yma i lawrlwytho copi o’r daith hon
Cydnabyddir:-
- Y Daith Wreiddiol gan Ron Williams
- Diweddarwyd diwethaf gan Goronwy Wynne, Hydref, 2010
- Lluniau: Norman Closs-Parry

  • "A Prospect of Gadlis - Workehouse"
  • Bagillt Hall
  • River Dee from Gadlys
 

Map


I weld Taith 4 mewn map mwy.

Byddem yn ddiolchgar pe baech yn cysylltu â ni pe bai gennych unrhyw luniau y gallem eu hychwanegu yma.

Diolch yn fawr iawn i bob un o'n Noddwyr

Cysylltwch â ni er mwyn dod yn Noddwr Cymdeithas Thomas Pennant .........

 

 

Yn yr Adran hon:

» Teithiau Cerdded
» Taith 1 Pennant
» Taith 2 Pennant
» Taith 3 Pennant
» Taith 4 Pennant
» Taith 5 Pennant


I weld Teithiau cerdded Thomas Pennant
mewn map mwy

Lleoliad a Cysylltiadau
Manylion Cyswllt

» Manylion Cyswllt
» Lleoliad / Cynllunydd Taith
» Ymholiad Ar-lein