Teithiau Cerdded

Pennant Taith 1 - Pellter 4m, cymer tua 2 -2.5 awr

Click here to enlarge

Dyffryn Maes Glas- Stocyn-Dyffryn Maes Glas.
[Man cychwyn Cyf AO: 189772]


Cychwyn: Maes parcio Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas i’w gyrraedd oddi ar yr A548 yn y Maes Glas. (SJ196776.  Cod Post CH8 7GH)

Gan adael y maes parcio, lle oedd gynt byllau pysgod Abaty Dinas Basing, mae’r llwybr yn mynd i fyny i’r dde heibio adfeilion rhamantus a thrawiadol yr Abaty ei hun (1).

Sefydlwyd  tua 800 mlynedd yn ôl yn y 12g. Ar ddiwedd y 15g.  cyn chwalu’r mynachlogydd, yr oedd Tomos ap Dafydd Pennant yma’n abad. Yr oedd ef yn un o hynafiaid Thomas Pennant.  Flynyddoedd yn ddiweddarach daeth rhan o’r tir yn eiddo i’r  Pennantiaid.  Mewn gwirionedd bu llawer o’r tir yr a’r daith drwyddi yn eiddo i deuluoedd Pennant neu Fostyn. Dim ond un o’r henebion yn y Dyffryn ydyw’r Abaty sydd, ceir yma henebion yn ymestyn dros ddeuddeg can mlynedd o hanes!

O fynd ymlaen i’r  Ganolfan Ymwelwyr, (2) hefyd y fynedfa i’r  Amgueddfa a’r ffermdy o oes Elisabeth, rhaid cadw ar y chwith.  Wedyn basio'r Ysgol drawiadol o oes Fictoria (3) a symudwyd  o’i safle gwreiddiol yn Nhreffynnon.  Mae’r tu mewn wedi ei adfer fel ag yr oedd yn oes Fictoria.  Mae’n addysg i lawer o’r plant sy’n ymweld i gael y ‘Profiad Fictoriaidd’, ac yn dod ag atgofion yn ôl i rai ohonom sy’n ddigon hen i gofio ysgolion hen ffasiwn yr oes o’r blaen!  Ar y dde ychydig bellter i ffwrdd mae yna wagenni, trac a gweddillion sawl tramffordd a fu’n gyffredin yn y chwareli ar y llechweddau uwchlaw yn cario llwythi  o garreg galch i  lawr drwy’r dyffryn i Ddociau’r Maes Glas.

Wrth basio adeilad modern fferm yr Abaty, rhaid dal i’r  chwith i Felin Wifrau'r Abaty (4) oedd yn cael ei weithredu ers talwm gan Gwmni Mwyngloddio Parys,  gan gynhyrchu gwifrau copr a bras ar gyfer  hoelion a phinnau. Mae yma bellach ardd braf ac yn ddiweddar mae’r cloc wedi ei droi’n ôl gan gael olwyn ddŵr newydd i gynhyrchu trydan i’w ddefnyddio yn y dyffryn.

Mae’r llwybr yn mynd yn ei flaen heibio cronfa'r Hen Felin Wifrau. Erbyn hyn fodd bynnag nid oes fawr ohoni yn weddill, mae’n debycach i ffrwd a drwy’r haf dan orchudd o lilis dŵr (Gall y rhai craff efallai gael cip olwg ar Trochwyr yn ehedeg yma).  Yn is i lawr,  ar y dde, bellach gwelir y gyn Felin Gotwm Isaf (5). Codwyd hon yn 1785 mewn deg wythnos!  Roedd y felin yn chwe llawr, yn 180 troedfedd o hyd a 30 troedfedd o led.  Mae’r warws sydd wedi ei adfer ar y ddwyn amgueddfa botelu dŵr mwynol gydag ager. Pan fydd yn gweithio ac yn agored bydd y chwibaniad o’r injan stem sydd ynddi i’w glywed yn diasbedain drwy’r dyffryn. 

Mae’r daith wedyn yn arwain ar hyd ochr y gronfa i Meadow Mills, (6). Mae'r cynllun yma, yn enwedig y bwa uwch y ffenestri, yn dwyn I gof pam oedd ffatrïoedd yn cael eu galw’n gadeirlannau diwydiant. Yr oedd toeau’r melinau hyn yn wreiddiol gyda gorchudd o gopr. Ym 1787 y’u codwyd hwy, er mwyn gwneud nwyddau copr a maes o law nwyddau plwm,  tunplat a bras.

birds on River DeeGan gadw i’r  chwith mae’r llwybr yn pasio’r fan y daw’r dŵr allan o’r gronfa nesaf. Pan mae’r dŵr yn llifo yn ei nerth mae’n drawiadol iawn. Wedyn rhaid dringo i’r  dde at fan cerdded ger llen o ddŵr helaeth. Mae’n noddfa i fywyd gwyllt: glas y dorlan, gwyach fach, sigl-i-gwt llwyd ac anifeiliaid a phlanhigion eraill. Dyma enghraifft wych o’r modd y mae natur yn hawlio’r dyffryn yn ei ôl. Mae’r daith wedyn yn mynd i’r  chwith i Faes Parcio ac ar draws i giât at hen Felinau’r Maes Glas (7) neu’r Gwaith Batri. Codwyd ym 1765, hwn yw’r gwaith mwyaf yn y dyffryn. Ar un adeg yr oedd yno Baladr-beiriant**Beam Engine anferth. Mae’r gweddillion yn llenwi hynny o le sydd ar ôl. Gan gadw i’r  dde eir heibio gweddillion ffordd o gerrig crynion at gronfa arall eto. Oddi yno ymlwybrir ymlaen at Warchodfa natur arall at Dafarn y Royal Oak.

Mae’r llwybr wedyn yn croesi ffordd brysur Treffynnon - Maes Glas i fynd i lôn gul sy’n mynd i fyny gallt serth. Wrth iddi wyro i’r  chwith mae’n mynd heibio'r hen Lawnt Fowlio (8). Disgrifir y fan hyn gan Thomas Pennant fel man cyfarfod rhai o hoelion wyth cymdeithas unwaith yr wythnos,  a fyddai siawns yn ymlwybro wedyn i’r  darfan gerllaw (bellach Greenhill Farm) am lymaid! Mae’r lôn erbyn hyn yn arwain at y fferm ond mae’r daith yn mynd yn ei blaen dros gamfa i lwybr rhwng gwrychoedd sy’n croesi lôn fferm arall i drac na chaiff ei ddefnyddio ac sydd ar brydiau a’i ochrau wedi gordyfu.  Ceuffordd ganoloesol yw hon. Mae’n amheus a yw trigolion y stad dai newydd gerllaw yn ymwybodol bod yma briffordd hynafol mor agos atynt. O’r ffordd hon sy’n cau’n glos am rywun, wedyn deuir at gae mawr  agored lle mae’r ffordd ganoloesol yn dal i fynd ger y gwrych i weundir.

Mae llwybr y daith yn mynd arhytraws  drwy’r cae at goed tal yn y pellter. Gan gadw at y llwybr a farciwyd mae’n cyrraedd coedlan fach a chamfa. Dyma'r lle oedd hen Chwareli’r Gweundir**Moor Quarries (9) lle ceid tywodfaen i’r  ardal.

Dyma le gwych i aros i edmygu'r golygfeydd rhyfeddol ar draws aber Dyfrdwy a thu hwnt.  Ar ddiwrnod clir gellir gweld arfordir Sir Gaerhirfryn a mynyddoedd Ardal y Llynnoedd.

Mae’r llwybr yn mynd yn ei flaen wedyn ar  y bryn i Blas Stockyn, (10). Mae ei siâp a’i gerrig yn llechu yn y dirwedd ac yn asio iddi. Bu unwaith yn eiddo i gangen o Fostyniaid Talacre.
Heibio’r plas mae’r llwybr yn mynd i’r  chwith dros gamfa sy’n mynd i Glyn Stokyn. (11) Mae’r llwybr at y bont gerdded yn y pant wedi ei orchuddio a garlleg gwyllt yn y gwanwyn a dechrau’r haf.  Mae’r sawr a’r dail yn wledd i’r  synhwyrau! Oedwch ennyd ar y bont fel y gellwch weld adfeilion y felin, a defnyddiwch eich dychymyg i weld sut y bu yma gynt fwrlwm gwledig a fyddai’n  gwrthgyferbynnu cymaint a sŵn a mwstwr Dyffryn Maes Glas.  Enw’r ffrwd ydyw Afon Marsiandwr.  Tybir mai smyglwyr oedd y ‘Marsiandwyr’ hyn a fyddai’n defnyddio’r ffrwd oddi ar afon Dyfrdwy i symud cargo!

Gan ddringo allan o’r  Glyn rhaid mynd dros gamfa i Ffordd Isglan.  Mae’r ffordd yma yn edrych fel ei bod yn ffordd hynafol o’r canoloesoedd. O droi i’r  dde i lawr yr allt eir heibio ‘Isglan’ (12) ar y chwith.  Bu hwn gynt yn gartref i’r  teulu Pierce, teulu a oedd wedi darfod cyn amser Thomas Pennant. Mae’r rhaid bod ‘Isglan’ yn dŷ o bwys mawr fel ei fod wedi rhoi ei enw ar y drefgordd o’i gwmpas.  Hyd yn oed heddiw mae’n edrych yn drawiadol.

Ar waelod yr allt mae ffordd arfordir yr A548  rhwng Caer ac arfordir Gogledd Cymru. Rhaid bod yn Bee Orchidofalus i groesi’r ffordd hon a dilyn llwybr troed wrth ochr ffatri fach at gamfa arall yn arwain at y brif reilffordd o Gaer i Gaergybi. Rhaid cymryd gofal a chroesi’r rheilffordd.  Wedyn mynd syth ymlaen at arglawdd sy’n cydredeg ag aber Afon Dyfrdwy . Codwyd yr hynaf o’r rhain yn y 18g.  fel ymdrech i wella mordwyaeth; y diweddaraf yn yr 20g. yn mynd a ffordd dram a thrac i’r  pyllau glo a arferai fod ar hyd y rhan hon o Afon Dyfrdwy. Oddi yma rhaid troi i’r  dde.  Gellir gweld clapiau o lo o hyd ar y trac wrth gerdded ar Ddoc y Maes Glas - lle a fu unwaith mor bwysig a phrysur (13). Hwn oedd un o borthladdoedd prysuraf  ar Afon Dyfrdwy yn y 18g. a’r 19g.  nid yn unig fel man llwytho llongau gyda nwyddau o rai o’r melinau, ond hefyd am y tramffyrdd a ddeuai yma yn cario carreg galch werthfawr.  Roedd y dociau wedi dadfeilio ond bu rhaglen wella ddiweddar yn gyfrifol am ei wneud yn fan atyniadol yn fwy at alw’r oes hon. Mae llwybr Gogledd  Cymru  yn mynd drwyddo i Fagillt a thu hwnt.

Gan adael y Doc rhaid mynd i mewn i’r  tir dros bont sy’n mynd uwchlaw rheilffordd Caer - Caergybi. Yr orsaf a welir yw’r hen gyffordd Treffynnon -  sydd wedi cael ei chadw orau o blith y rhai a godwyd gan Thomson. O edrych yn fanwl gellir gweld Rheilffordd Tref Treffynnon yn mynd o ben draw’r platfform ar i fyny.  Mae gofyn wedyn fynd i lawr y ffordd, troi i’r  chwith yn y briffordd a chroesi’n ôl i’r  man cychwyn. Mewn ychydig o amser a phellter bydd llawer o ‘hanes cudd’  rhyfeddol wedi’i ddatgelu.  Gall ardal sy’n ymddangos ar yr olwg gyntaf fel pe bai heb newid dim roi cipolwg gyfareddol i ni ar ein gorffennol.

Cliciwch yma i lawrlwytho copi o’r daith hon.


Cydnabyddir:-
- Taith wreiddiol gan Mike Griffiths 
- Diweddarwyd  diwethaf gan Ray Bailey, Hydref, 2010
- Lluniau: Norman Closs-Parry

 

  • Copper and Brass Works 1796
  • Lower end of the Greenfield Valley - 1792
 

Map


I weld Taith 1 mewn map mwy

Byddem yn ddiolchgar pe baech yn cysylltu â ni pe bai gennych unrhyw luniau y gallem eu hychwanegu yma.

 

Diolch yn fawr iawn i bob un o'n Noddwyr

Cysylltwch â ni er mwyn dod yn Noddwr Cymdeithas Thomas Pennant .........

 

 

Yn yr Adran hon:

» Teithiau Cerdded
» Taith 1 Pennant
» Taith 2 Pennant
» Taith 3 Pennant
» Taith 4 Pennant
» Taith 5 Pennant


I weld Teithiau cerdded Thomas Pennant
mewn map mwy

Lleoliad a Cysylltiadau
Manylion Cyswllt

» Manylion Cyswllt
» Lleoliad / Cynllunydd Taith
» Ymholiad Ar-lein