Teithiau Cerdded

Taith 3 - Pellter 6m (ar y mwyaf), cymer tua hanner diwrnod

Click here to enlarge

Downing
[Man cychwyn Cyf AO: 147782]


Cychwyn:   Ym mhentref Chwitffordd gan barcio ar yr ochr y ffordd ger yr eglwys neu yn hen faes parcio'r dafarn sydd wedi cau, a chyferbyn a’r eglwys yn y groesffordd ewch i lawr Ffordd Downing Uchaf.

Ewch i mewn i’r  dreif drwy’r giatiau ac ewch ymlaen i lawr y dreif i’r  dde gan droi yn syth cyn giât Downing Uchaf drwy giât mochyn.

I lawr trac (mwdlyd ar brydiau) dros nant (1) gan ddod at adeilad stablau i gyffordd T. Trowch i’r  chwith i lawr llwybr llydan a sylwch ar adfeilion Plas Downing ar y chwith. (2)
chestnut tree
Ewch ymlaen ar hyd y ffordd wreiddiol o Blas Downing  i’r   briffordd a’r môr.
Sylwch ar y Coedydd Coch Mawr  (Giant Redwoods) bob och i’r  trac yn syth cyn y giatiau. Llwybr i’r giât mochyn ar y chwith i’r  dreif ger y lluest isaf. (3)

 

Ewch allan i’r  lôn drwy’r giât mochyn yna trowch i’r  dde.  Cerddwch i’r  gyffordd T 25 llach i ffwrdd a throi i’r  chwith heibio arwydd ‘llyffant’ ac i fyny’r allt heibio’r Pysgodfeydd.
Ar ben yr allt troi i’r  dde i Lôn Mertyn Downing ger Bwthyn Bryn Oer.(4)

Cerddwch heibio Mertyn Downing, fferm gartref Stad Downing,  adeilad rhestredig gradd II yn dyddio o adeg y Rhyfel Cartref, a throi i’r  chwith yn syth ar ôl coedlan fechan.(5)

Ewch drwy giât fferm Kennels;  drwy giât haearn ac ar hyd ochr ffens mewn cae mawr elwir yn Gae Gwar, yno ar y chwith gwelir golygfeydd godidog. Ewch dros gamfa ym mhen draw'r cae.   Trowch i’r  chwith a mynd gyda’r gwrych am 50 llath, lle gwelir olion hen gamfa a thyfiant wedi gordyfu drosti  ar y chwith.

[I fyrhau’r daith ewch i lawr i’r  ffordd a throi i’r  chwith drwy fwlch cyfyng gan gadw i’r  chwith ar hyd ochr ffens wedi gordyfu tan y dewch i gamfa.  Tros honno a throi i’r  dde a mynd yn syth i lawr yr allt ochr dde i’r  tŷ fferm am y bont ac arwydd llwybr cyhoeddus. Trowch i’r  dde i lawr lôn i gyffordd T ar ffordd yr arfordir]
Downing woods
Trowch i’r  dde yn y giât haearn gan ddilyn y ffens i’r  gamfa (Dewis arall gwell efallai: drwy’r giât haearn a throi i’r  dde gerfydd y ffens - mynediad haws)
Yn y gamfa mae’r daith yn cyrraedd Clwb Golff Kinsale yn y  trac llydan o’r dde - dilyn y trac heibio tŷ ar y chwith ar draws y cwrs golff.  Tros y gamfa ym mhen draw’r cwrs golff a throi i’r  chwith i lawr llwybr serth drwy’r coed at giât fetel lle gellir gweld y môr a blaen penrhyn Cilgwri gyda Phlas Kinsale (bellach yn ysgol) ar y chwith. (6)

[Byrhau llwybr (14) -  i lawr y brif  dreif i’r  lôn, ac  a) Troi i’r  dde ac yn y gyffordd T gyda’r briffordd, troi i’r  dde ac edrych am lwybr ar ochr chwith y ffrwd i’r  hen stemar a’r môr, neu b) Troi i’r  chwith ar hyd y ffordd ac i’r  chwith yn (12)]

Ar ôl 15m trowch i’r  dde; camfa gyda marciwr TP a chroesi cae.  I’r  chwith o’r  llwyn celyn mawr, dros gamfa a phont gerdded.(7)  Trowch i’r  chwith a dilynwch y  gwrych  i gamfa ar ochr chwith yr adwy. Dilynwch y trac ar draws y cae ac yn syth i lawr drwy’r coed i’r  briffordd. (A548) Camfa ar y chwith.(8)

Trowch i’r  chwith ar hyd y ffordd.  Gwelir yr hen stemar ar y dde y ‘Duke of Lancaster’ a SOLITAIRE  mewn concrit yn lle parcio’r farchnad;  Old Tavern Inn (9) a siop fechan ar y dde. (Man arall posib i gael lluniaeth yw adeiladau Abakhan.)

Ar ôl y tŷ tafarn, edrychwch ar y dde am ffrwd ac arwydd Llwybr Cyhoeddus. Cymerwch y llwybr ar y chwith i’r  ffrwd i gyfeiriad y llong, o dan bont isel (gwlyb ar ben llanw).(10)

Trowch i’r  chwith a dilyn llwybr i’r mor. Trowch i’r  chwith ar hyd glan y môr i Ddoc  Mostyn.
Trowch i’r  chwith i mewn i’r  tir (11) dros y bont reilffordd tuag at y briffordd ac eglwys Mostyn.

Trowch i’r  chwith yn y lôn fawr ac wedyn i’r  dde ger Tafarn Glan-y-Don, i fyny trac yn mynd i Eglwys Crist, Mostyn. Dilynwch y llwybr y tu ôl i’r  eglwys ac yn fuan droi’n siarp i’r  dde i fyny llwybr serth gyda chanllaw yn mynd i bentref Maes Pennant.

Croeswch y ffordd a mynd drwy’r giât i lwybr drwy ddoldir hardd (a fu unwaith y ffordd bwysicaf i gyrraedd at Blas Downing).(12)  Cadwch yn syth i fyny’r allt tan y dowch at luest isaf Stad Downing.(13)(3)

Oddi yma ewch yn ôl ar hyd y ffordd grand i’r  plas ac i’r  dde lle mae  adfeilion Plas Downing yn ôl i bentref Chwitffordd.

Cliciwch yma i lawrlwytho copi o’r daith hon

Cliciwch yma am daith haws i deuluoedd (Gorffennaf 2012)

Cydnabyddiaeth:-
- Y Daith Wreiddiol gan John Clark
- Diweddarwyd diwethaf gan: Ryan Jenner 23/09/2010
- Lluniau: Norman Closs-Parry

  • Mertyn Downing in the 18th Century by Moses Griffiths
 

Map


I weld Taith 3 mewn map mwy.

Byddem yn ddiolchgar pe baech yn cysylltu â ni pe bai gennych unrhyw luniau y gallem eu hychwanegu yma.

Diolch yn fawr iawn i bob un o'n Noddwyr

Cysylltwch â ni er mwyn dod yn Noddwr Cymdeithas Thomas Pennant .........

forest hill

Forest Hill Trout Farm and Fishery

A fresh breath of the countryside surrounded by woodland and sparkling spring water.

Feed the fish from the lakeside platform, sit amongst the flowers on the poolside terrace with a cup of tea or coffee, browse in the shop for fresh trout, sea foods, cod, prawns, country produce, jams, jellies and chutneys.
Tel: 01745 560151

 

 

 

Yn yr Adran hon:

» Teithiau Cerdded
» Taith 1 Pennant
» Taith 2 Pennant
» Taith 3 Pennant
» Taith 4 Pennant
» Taith 5 Pennant

I weld Teithiau cerdded Thomas Pennant
mewn map mwy


Lleoliad a Cysylltiadau
Manylion Cyswllt

» Manylion Cyswllt
» Lleoliad / Cynllunydd Taith
» Ymholiad Ar-lein