
Nodau Tudalen:
Cliciwch yma am fanylion cyswllt
Pennant Taith 5 - Pellter 5 m, cymer tua 3 awr
Chwitffordd - Y Goleudy Rhufeinig (Pharos) - Maen Achwyfaen - Chwitffordd
[Cychwyn Cyf AO: 147782]
Yn yr eglwys (1) mae bedd Thomas Pennant (heb ddim i nodi lle mae). Mae cofeb iddo ger yr organ a cherrig coffa ei deulu ar y wal ddeheuol.
Ger wal ogledd-orllewinol y fynwent mae bedd Moses Griffith, y gŵr a wnâi’r darluniau i lyfrau Thomas Pennant.
Gadwech y pentref gyda’r eglwys ar yr ochr chwith i chi i gyfeiriad yr ysgol. Trowch i fyny’r lôn gyferbyn a’r lluest (2). Mae’r ffordd yn gwyro i’r dde ac ymhen ychydig yn cyrraedd llwybr ceffyl ar y chwith (3). Ewch drwy’r giât a dilynwch y llwybr hwn.
Ewch drwy 4 giât geffyl a thros y nant, yr ydych erbyn hyn mewn ceuffordd. Ewch drwy’r giât geffyl nesaf a throi i’r chwith. Mae’r lôn hon hefyd llwybr ceffyl. Cerddwch ar hyd y caeau gyda’r gwrych ar y chwith. Cerddwch drwy’r giât geffyl nesaf a thros y gamfa yn syth ar y dde (4).
Mae’r brif daith ar hyd y ffens ar y dde ac ar draws y cae i’r giât geffyl ddu. Dyma fferm y Garreg (5). O’r buarth ewch drwy’r giât fferm ddu ar y chwith ac i fyny’r lôn, a all fod yn fwdlyd iawn. Yn awr dilynwch y llwybr sy’n mynd gerfydd y gwrych ar y dde at giât geffyl arall eto. Yna troi i’r chwith ac i fyny’r allt ac wedyn troi i’r dde (6).
Trowch i’r dde lle mae’r trac yn ymuno o’r dde, gan ddal i’r chwith am y coed. Ar eich bod yn y coed ewch ar y llwybr caregog i’r chwith. Dilynwch y prif lwybr tan gyrhaeddwch gyrion y coed. Yma mae camfa eithaf cadarn (7).
Ar yr adeg yma peidiwch â chroesi’r gamfa ond ewch ar y llwybr i’r dde i’r Goleudy Rhufeinig (Pharos) (8), a gafodd ei adfer yn 1897. Disgrifir ef gan Thomas Pennant ar dudalen 112 The History of the Parishes of Whiteford and Holywell:
“The Romans took advantage of this elevated situation and placed on its summit a Pharos, to conduct the navigators to and from Deva, along the difficult channel of the Seteia Portus. The building is still remaining. It is tolerably entire; its form is circular; the inner diameter twelve feet and a half; the thickness of the walls four feet four inches. The doors, or entrances, are opposite to each other; over each is a square funnel, like a chimney, which opens on the outside, about halfway up the building. On each side is a window. About four feet from the ground are three circular holes, lined with mortar, as is frequent in Roman buildings; and penetrate the whole wall, for purposes now unknown.”
Ewch yn ôl yr un ffordd i’r gamfa. Croeswch drosti ac ewch ar eich union ar draws y cae i gyfeiriad y ffermdy gwyn yn y pellter. Ymhen dim daw cornel y cae i’r golwg. Croeswch dros y gamfa ac ewch am y gamfa gerrig ger y bwthyn. Yn y lôn trowch i’r chwith.
Ar y chwith mae wal gerrig uchel. Dyma "ffald" (9) - cae a ddefnyddid i ddal anifeiliaid wedi crwydro. Byddai’n rhaid i berchenogion yr anifeiliaid dalu dirwy i’w cael yn ôl. Yn y cae dros y ffordd mae Croes Geltaidd. Hon yw Maen Achwyfaen - “Maen Galaru” (tudalen 113):
“It (Maen Achwynfan) takes its name in all probability from the penances, which were often finished before such sacred pillars; attended with weeping, and the usual marks of contrition... i do not presume... to attempt to a guess at the age; only must observe, that it must have been previous to the reign of gross superstition among the Welsh, otherwise the sculptor would have employed his chizzel in striking out legendary stories, instead of the elegant knots and interlaced work that cover the stone.”
Ar ôl mynd at y Groes Geltaidd, ewch yn ôl at y ffordd. Sylwch ar yr adeilad wedi lled adfeilio gyferbyn (mewn gardd bwthyn). Gweddillion tollty yw hwn. Mae Thomas Pennant yn disgrifio sut yr ai’r ffordd o Fostyn i Henllan a ddefnyddid i gludo glo i waith carreg galch mawr Dinbych.
Ewch ar y llwybr ceffyl i’r dde o’r bwthyn. Ar y dechrau mae yna wyneb caregog – ewch ymlaen tan mae’n gorffen ac wedyn ar y trac wyneb meddal.
Dilynwch y trac hwn, peidiwch â mynd drwy’r giât, ond cymrwch y fforch ychydig i lawr yr allt i’r dde a chymryd y llwybr amlwg. Yn fuan, mae’n mynd ychydig yn fwy serth a maes o law yn pasio tublaen i ddau o fythynnod. Cerddwch i lawr y ffordd a throi i’r dde (11).
Ewch ar y llwybr ar y dde (12). Ar ôl y giât fferm ddu (13) gellwch weld ar y dde drwy’r coed weddillion Plas Pentreffynnon. Dilynwch y trac drwy’r parcdir at y giât wen a chyrraedd at gastanwydden fawr yng nghanol y ffordd (14). Mae’r goeden hon yn cael ei dangos ar fapiau cynnar, cyn amser Thomas Pennant.
Trowch i’r chwith a phasio fferm ar y chwith. Ewch drwy’r ail set o giatiau ar y dde. Mae adeilad cerrig ar y dde, wrth ymyl y cwt gwair, yn hen Ysgubor Ddegwm (15). Ewch yn syth ymlaen drwy’r giât ar y lôn werdd.
Trowch i’r chwith drwy'r giât a cherdded gyda’r coed ar y dde. Peidiwch â chymryd sylw o’r trac (16) sy’n dod o luest Plas Mostyn ac ewch drwy’r giât yn syth ymlaen. Ewch ar draws y cae, ar draws y pant, i gyfeiriad y tai yn y pellter. Anelwch am yr arwydd marcio ffordd a throi i’r dde ar hyd dreif fferm. Fe fyddwch yma’n cyrraedd y lluest y soniwyd amdani ar y cychwyn.
’Cliciwch yma i lawrlwytho copi o’r daith hon
Cydnabyddiaeth:-
- Y Daith Wreiddiol gan Ron Williams / Eric Masterman
- Diweddarwyd diwethaf gan Ray Bailey, Hydref, 2010
- Lluniau: Norman Closs-Parry
I weld Taith 5 mewn map mwy.
Byddem yn ddiolchgar pe baech yn cysylltu â ni pe bai gennych unrhyw luniau y gallem eu hychwanegu yma.
Diolch yn fawr iawn i bob un o'n Noddwyr
Cysylltwch â ni er mwyn dod yn Noddwr Cymdeithas Thomas Pennant .........
Yn yr Adran hon:
» Teithiau Cerdded
» Taith 1 Pennant
» Taith 2 Pennant
» Taith 3 Pennant
» Taith 4 Pennant
» Taith 5 Pennant
I weld Teithiau cerdded Thomas Pennant
mewn map mwy
Lleoliad a Cysylltiadau
Manylion Cyswllt
» Manylion Cyswllt
» Lleoliad / Cynllunydd Taith
» Ymholiad Ar-lein
Thomas Pennant
» Cyflwyniad
» Thomas Pennant
» Teithiau Cerdded
» Adborth
» Hanes
» Planhigion / Bywyd Gwyllt
EIN CYMDEITHAS
» Cyflwyniad
» Pwy ydym ni
» Ein Noddwyr
» Aelodau
» Newyddion
» Dyddiadur / Calendr Digwyddiadau
GWYBODAETH
» Cyflwyniad
» Albwm Lluniau Ar-lein
» Wal Fideo Ar-lein
» Llawrlwythiadau
» Cwestiynau Cyffredin
» Dolenni Defnyddiol
CYSYLLTIADAU
» Cysylltiadau
» Manylion Cyswllt
» Lleoliad / Cynllunydd Taith
» Ymholiad Ar-lein